2014 Rhif 476 (Cy. 56)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) (Diwygio) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990 (“Rheoliadau 1990”) a wnaed o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (“Deddf 1989”).

Mae'r diwygiadau yn gymwys o ran Cymru.

Mae Adran 15 o Ddeddf 1989 yn nodi’r rheolau cydbwysedd gwleidyddol sy'n gymwys i bwyllgorau ac is-bwyllgorau awdurdod lleol. Mae Rheoliad 16A o Reoliadau 1990 yn darparu ar gyfer eithriad i'r ddyletswydd o dan adran 15 i ddyrannu seddau i grwpiau gwleidyddol neilltuol ar bwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol awdurdod lleol a sefydlwyd yn unig i gyflawni swyddogaethau neu i gynghori mewn perthynas â rhan o ardal yr awdurdod (“pwyllgorau ardal”).

Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud o dan Atodlen 1 i Ddeddf 1989 ac maent yn mewnosod ar gyfer Cymru reoliad 16AA newydd i Reoliadau 1990 sy’n nodi’r amodau sydd i'w bodloni yng Nghymru er mwyn i’r eithriad ar gyfer pwyllgorau ardal fod yn gymwys. Mae'r eithriad bellach yn gymwys pan gaiff pwyllgor neu is-bwyllgor ei sefydlu yn unig i gyflawni swyddogaethau neu i gynghori mewn perthynas â rhan o ardal yr awdurdod a phan nad yw arwynebedd y rhan honno yn fwy na hanner cyfanswm arwynebedd yr awdurdod neu phan nad yw poblogaeth y rhan honno yn fwy na hanner cyfanswm poblogaeth yr ardal. Yn ogystal, rhaid i'r rhan honno gynnwys un neu ragor o adrannau etholiadol ac mae hawl gan holl aelodau'r awdurdod sy'n cael eu hethol ar gyfer yr adran etholiadol honno (neu'r adrannau etholiadol hynny) (a’r aelodau hynny yn unig) fod yn aelodau o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor ardal.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


2014 Rhif 476 (Cy. 56)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) (Diwygio) (Cymru) 2014

Gwnaed                             27 Chwefror 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       5 Mawrth 2014

Yn dod i rym                               1 Mai 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([2]).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) (Diwygio) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 1 Mai 2014.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990

2.(1)(1) Caiff Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990([3]) eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn y pennawd i Reoliad 16A mewnosoder ar y diwedd “in England”.

(3) Yn rheoliad 16A(1), ar ôl “any ordinary committee or advisory committee of an authority” mewnosoder “in England”.

(4) Ar ôl rheoliad 16A([4]) mewnosoder—

Area committees and sub-committees in Wales

16AA.—(1) Section 15 of the 1989 Act does not apply to any ordinary committee or advisory committee of an authority in Wales which is a county council or a county borough council, or to a sub-committee of any such ordinary or advisory committee, where—

(a)   the committee or sub-committee was established exclusively—

                       (i)  to discharge functions of the authority, or

                      (ii)  to advise the authority or any committee of the authority,

in respect of part of the area of the authority;

(b)  that part consists of the whole of one or more electoral divisions of the authority;

(c)   all the members of the authority who are elected for that electoral division, or those electoral divisions, are entitled to be members of the committee or sub-committee;

(d)  no members of the authority, other than those mentioned in subparagraph (c), may be members of the committee or sub-committee; and

(e)   either or both of the conditions in paragraph (2) are satisfied in relation to that part.

(2) Those conditions are—

(a)   that the area of that part does not exceed one-half of the total area of the authority;

(b)  that the population of that part, as estimated by the authority, does not exceed one-half of the total population of the area of the authority as so estimated.”

 

 

Lesley Griffiths

 

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru

 

27 Chwefror 2014



([1])           1989 p. 42.

([2])           Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, wedi eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

([3])           O.S. 1990/1553, a ddiwygiwyd gan O.S. 1991/1398, O.S. 1993/1339, O.S. 1998/1918, O.S 1999/500 ac O.S.  2010/1142 (Cy. 101).

([4])           Mewnosodwyd Rheoliad 16A gan reoliad 6 o O.S. 1991/1398 ac fe’i diwygiwyd gan reoliad 4(1) a (2) o O.S. 1998/1918.